Mae Newton’s Cottage yn gomisiwn celf newydd a chyffrous ym Queen Elizabeth Olympic Park. Fe’i cynlluniwyd gan gydweithfa celf/penseiri o Rotterdam, Observatorium.

newtons-cottage-03

Mae’r adeiladwaith hwn yn adleisio ffurf y Lockeepers Cottage, bwthyn a leolwyd unwaith ar loc hanesyddol bwysig Carpenters Road ar y Lea yng nghanol y parc. Fe’i henwyd ar ôl C. Newton, ceidwad loc olaf loc Carpenters Road. Mae’r prosiect yn dathlu hanes a threftadaeth y safle unigryw hwn a dyfrffyrdd Llundain. Mae’n ofod i ymwelwyr fyfyrio ar y safle hanesyddol pwysig hwn.